Proses chwilio hawdd am staff cyflenwi
Dewiswch y diwrnodau pan fo angen staff cyflenwi arnoch a’r meini prawf rydych yn chwilio amdanynt. Yna, gwasgwch chwilio.
Negeseuon uniongyrchol
Gallwch anfon neges at aelodau staff i roi rhagor o fanylion iddynt am waith penodol. Er enghraifft, gofyn iddynt ddod â dillad addysg gorfforol, neu fynd i weld Mrs Roberts.
Mae diogelu plant yn ganolog i bopeth a wnawn.
Mae holl staff Gwasanaethau Addysgu Apollo yn mynd drwy wiriadau cydymffurfio trwyadl cyn dod yn weithredol ar ein system a chael eu neilltuo i ysgolion.
Y gwiriadau rydym yn eu cynnal ar ein holl aelodau staff yw:
Rydym yn ymroddedig i wella ansawdd gwasanaethau addysgu cyflenwi ar draws y DU.
Credwn yn gryf y dylai athrawon cyflenwi allu darparu gwasanaeth nad yw'n atal ansawdd yr addysgu mae disgyblion yn ei fwynhau ac y mae ysgolion yn ei ddisgwyl.
Pan fydd aelod staff wedi’i gofrestru gyda Gwasanaethau Addysgu Apollo, bydd yn cael y cyfle i ddatblygu a chynnal ei sgiliau ar ein sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus am ddim.
Mae ein tîm wedi ehangu gyda gofynion cyflenwi cynyddol gan yr ysgolion rydym yn eu gwasanaethu a gallwn ddweud yn hyderus mai ni yw’r unig asiantaeth addysgu y mae ganddi athrawes brofiadol; ymgynghorydd recriwtio; cydlynydd cyflenwi ysgolion; swyddog cyllid a gweithredwr gwerthiant yn arwain tîm Apollo.




Y Ffeithiau.
0
Nifer y diwrnodau y darparwyd gwasanaeth cyflenwi mewn ysgolion gan Apollo yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.0%
Canran y diwrnodau y gall Apollo ddarparu gwasanaeth cyflenwi pan geir cais gan ysgol.0
Nifer yr aelodau staff sydd wedi cofrestru gydag Apollo.
Ysgol Brynteg
“Rydym wedi bod yn defnyddio Apollo ers i’r cwmni ddechrau ac nid ydym wedi cael problem erioed. Mae’r ymgynghorwyr yn swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr bob amser yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar, ac mae’r staff cyflenwi a gawn gan Apollo o safon uchel. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd Apollo yn datblygu drwy gyflwyno’r ap!”
Lawrlwythwch ein llyfryn
Ysgol Llanilltud Fawr
“Fel ysgol, rydym wedi gweithio gydag Apollo ers blynyddoedd lawer, mae’r staff bob amser wedi bod yn gymwynasgar ac yn gyflym i ddarparu athrawon arbennig i ni.”
Cydlynydd Cyflenwi, Ysgol Gyfun Treforys
“Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi gweithio gyda Gwasanaethau Addysgu Apollo ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn a gallwn ddweud yn galonnog bod y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu’n ddibynadwy, yn hygyrch ac y gellir ymddiried ynddo. Mae’n bwysig i’n hysgol ein bod yn cael staff o safon uchel ac mae Apollo yn gallu darparu hyn i ni hyd yn oed ar fyr rybudd a darparu staff addysgu pynciau penodol hyd yn oed ar gais. Mae’r gwasanaeth y mae cangen Abertawe’n ei ddarparu’n broffesiynol ar bob adeg a byddem yn argymell Gwasanaethau Addysgu Apollo i ysgolion a staff.”
Uwch-swyddog Gweinyddol, Ysgol Heronsbridge
“Rydym wedi defnyddio Gwasanaethau Addysgu Apollo ers dros 10 mlynedd ac yn fwyfwy aml dros y 2 flynedd diwethaf. Rwyf bob amser wedi meddwl bod y staff yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn gymwynasgar iawn ar bob adeg. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid a staff addysgu a staff cymorth o safon uchel sy’n gallu diwallu ein holl anghenion. Mae’r holl staff sy’n cael eu lleoli yn yr ysgol bob amser wedi ymddwyn mewn modd proffesiynol ac ymgartrefu’n dda â’r myfyrwyr a’r staff. Mae’r adborth a gafwyd gan ddosbarthiadau bob amser wedi bod yn gadarnhaol ac, mewn llawer o achosion, mae’r ysgol wedi recriwtio’r staff asiantaeth.
Rheolwr Busnes Ysgol, Ysgol Maes Ebbw
“Roeddwn am ddiolch i Apollo a Marc Williams yn arbennig am y gwasanaeth effeithlon mae’r ysgol wedi’i gael dros y blynyddoedd diwethaf. Rydych wedi darparu staff cyflenwi da iawn i ni sydd wedi dod i’r ysgol yn rheolaidd a meithrin perthnasoedd da â’n staff a’n myfyrwyr. Mae parhad yn bwysig iawn i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Yn ddiweddar, rydym wedi cael y cyfle i gyflogi rhai o’ch staff ar ôl iddynt weithio yn yr ysgol am gyfnod sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rhan fawr o angen yr ysgol yw i staff gael eu darparu ar fyr rybudd ac rydych wedi gallu darparu hyn yn gampus, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth redeg yr ysgol. Mae hefyd yn ddefnyddiol eich bod yn ymweld â ni unwaith neu ddwywaith y tymor, sy’n rhoi’r cyfle i ni drafod ein gofynion.
Daliwch ati gyda’r gwaith da ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’ch asiantaeth eto eleni.”