Cwestiynau Cyffredin
Sut y gallaf lawrlwytho ap Apollo?
Mae’r ap ar gael ar Google Play Store a’r App Store drwy chwilio am ‘Apollo Teaching’.
Sut y gallaf fewngofnodi i’r llwyfan ysgolion?
Mae’r llwyfan ysgolion ar gael yma.
Sut y gallaf gofrestru gyda Gwasanaethau Addysgu Apollo?
Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen hon (dolen i’r ffurflen ymuno â ni), neu wneud apwyntiad drwy ffonio ein Desg Gymorth a fydd yn eich trosglwyddo i’ch swyddfa leol. Gallwch ffonio Desg Gymorth Apollo ar 08000 622122.
Pa swyddi sydd ar gael i mi?
- Athrawon cyflenwi
- Cymorth Dysgu (Cynorthwywyr Addysgu)
- Goruchwylwyr Cyflenwi
- Goruchwylwyr Arholiadau
- Staff Gweinyddol
- Gofalwyr
Beth yw hyd apwyntiad cofrestru?
Gall apwyntiad cofrestru bara rhwng 30 munud ac awr. Mewn gwirionedd, mae’n dibynnu ar faint o gwestiynau sydd gennych a faint rydych eisoes yn ei wybod am Apollo.
Pryd byddaf yn gwybod ym mha ysgol y byddaf yn gweithio?
Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych yn cyflenwi o ddydd i ddydd, gallwch ddisgwyl galwad unrhyw amser o 7am.
Sut y gallaf wneud cwyn?
Os oes gennych bryderon neu sylwadau i ni, anfonwch e-bost at angela@apolloteaching.com.
Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth am reoliadau gweithwyr asiantaeth?
Edrychwch ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau gweithwyr asiantaeth a gyflwynwyd ym mis Hydref 2011. https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/32121/11-949-agency-workers-regulations-guidance.pdf
Nid yw fy ap yn gweithio. Beth y dylwn ei wneud?
Os nad yw eich ap yn gweithio mwyach, ffoniwch Ddesg Gymorth Apollo ar 08000 622122.
Rwyf wedi anghofio fy enw defnyddiwr a/neu fy nghyfrinair ar gyfer yr ap neu’r llwyfan ysgolion. Beth y dylwn ei wneud?
Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, ffoniwch Ddesg Gymorth Apollo ar 08000 622122.
Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y gallwch eu cynnig i fy ysgol/coleg?
Os ffoniwch ein Desg Gymorth ar 08000 622122, bydd y staff yn fodlon helpu.
Beth mae angen i mi ddod ag ef i apwyntiad cofrestru?
- CV – gan sicrhau bod gennych hanes cyflogaeth llawn heb ddim bylchau.
- 2 brawf adnabod – Pasbort, tystysgrif geni, trwydded yrru.
- 2 brawf cyfeiriad – Cyfriflen banc/bil cyfleustod dyddiedig yn y 3 mis diwethaf.
- Dogfennau eraill – P45, datganiad treth gyngor/morgais dyddiedig yn y 12 mis diwethaf.
- Manylion 3 chanolwr – Rhaid i’r manylion fod ar gyfer eich swyddi/tiwtor diweddaraf (Rhaid bod yn broffesiynol)
- Gwiriad heddlu tramor – Os ydych wedi byw neu weithio y tu allan i’r DU ers 18 oed.
- Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) – Gallwch gael gwiriad gan y DBS drwy wefan GOV.UK.
- Ffurf uchaf dogfennau cymwysterau
Pa mor fuan y gallaf ddechrau gweithio?
Mae’n amrywio, gan ddibynnu ar statws eich dogfennau. Gall fod yn gwpl o ddyddiau, ond gall fod yn gwpl o wythnosau os oes angen i chi brosesu gwiriad DBS newydd.
Pam nad yw Apollo yn defnyddio taflenni amser?
Rydym yn credu y dylai eich amser gael ei dreulio yn yr ystafell ddosbarth, nid llenwi ffurflenni. Am y rheswm hwnnw, bydd eich oriau’n cael eu cofnodi ar ein porth ar-lein y gallwch ei weld ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi ar ein gwefan.