Gwerthoedd Cymunedol
Elusennau
Rydym yn falch o gymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol i godi arian bob blwyddyn academaidd, ac yn gwneud ein gorau i gefnogi sefydliadau elusennol lleol a chenedlaethol.
Dyma restr o rai o’r elusennau ac unigolion rydym wedi helpu i godi arian iddynt yn ystod blwyddyn academaidd 2017-2018:
- Canolfan Ganser Felindre
- Achub y Plant
- Plant mewn Angen
- Y Geidiaid
Rhoi yn ôl
Yng Ngwasanaethau Addysgu Apollo, mae ein hysgolion yn bwysig i ni ac mae eu disgyblion yn bwysig i ni. Fel arwydd o ddiolch am ymddiried ynom i ddarparu staff cyflenwi o safon i’ch ysgol, rydym yn cynnig sesiynau untro unigryw i’n hysgolion gyda'r nod o geisio gwella sgiliau meddal eich disgyblion.
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Yn benodol i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 sy’n paratoi i sefyll arholiadau, mae ein sesiwn Ymwybyddiaeth Ofalgar 3 awr yn trafod strategaethau a thechnegau ar gyfer ymdopi â straen. Mae’r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer helpu i ddarparu ffyrdd i fyfyrwyr ganolbwyntio a thawelu eu meddyliau.
Gwaith Tîm
Cynhelir ein sesiwn Gwaith Tîm gan Lloyd Ashley, un o sêr rygbi’r Gweilch ac mae’n cyfuno gweithgareddau damcaniaethol ac ymarferol. Fel rhan o’r sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu pwysigrwydd gwaith tîm. Mae’r sesiwn hon yn annog myfyrwyr i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau chwaraeon, ac yn trafod y buddion o fod yn rhan o dîm chwaraeon.
Grymuso Menywod
Dan arweiniad Faith Olding, ein Rheolwr Gyfarwyddwr, bydd y sesiwn hon yn annog meddwl yn entrepreneuraidd ac yn trafod rôl menywod mewn busnes. Faith yw’r grym y tu ôl i Wasanaethau Addysgu Apollo a’i lwyddiant. O’i ddechreuadau diymhongar mewn garej hyd at fod yn asiantaeth recriwtio arobryn ledled y wlad, mae Apollo wedi mynd o nerth i nerth. Mae ‘Grymuso Menywod’ yn sesiwn gynhwysol sy’n ceisio annog menywod o bob cefndir i gyrraedd eu potensial llawn.
Eich Cefnogi Chi
Mae ein hymgynghorwyr wrth eu boddau’n cael eu gwahodd i’r digwyddiadau sy’n bwysig i chi. O ffeiriau haf i ddiwrnodau chwaraeon, cofiwch y byddwn bob amser yn ceisio estyn help llaw pryd bynnag y bo’n bosibl.
Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae ein hymgynghorwyr wedi dyfarnu twrnameintiau pêl-droed, cefnogi seremonïau cyflawniadau diwedd blwyddyn a gwylio pantomeimiau ysgol. Rydym bob amser yn fodlon helpu ac wrth ein boddau’n clywed am yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud.
Newyddion Cymunedol
Noson Gwobrau Cyflawnwr Ifanc Bridge FM 2019
Addysgu Apollo y Gwobrau Cyflawnwr Ifanc yr wythnos diwethaf a dyna noson oedd hi! Roedd clywed yr holl straeon ysbrydoledig […]
Read MoreCystadleuaeth Nadolig Apollo 2019
Dyma’r amser mwyaf rhyfeddol o’r flwyddyn … … ac amser hyfryd i fod yn greadigol! Eleni rydym yn gofyn i […]
Read MoreTaith Feicio Arfordir y Gorllewin Will ar gyfer Gofal Canser Felindre
Mae Will Rees-Hole, ein rheolwr yng Nghaerdydd, newydd gwblhau taith feicio 600km ar hyd arfordir Califfornia er budd Gofal Canser […]
Read More