Llwyfan Addysgu Apollo
Beth yw hwn?
Nod yr ap newydd yw prif-ffrydio’r broses neilltuo a’ch helpu i gadw golwg ar lle mae angen i chi fod a phryd.
Beth mae’n ei wneud?
Gallwch ddefnyddio’r calendr i bennu eich argaeledd ar unrhyw adeg, a lle bynnag yr ydych.
Gall ysgolion gysylltu â chi’n uniongyrchol drwy’r ap i ofyn i chi weithio, gan olygu y gallwch ffurfio perthnasoedd agosach â’r ysgolion rydych yn gweithio iddynt.
Mae opsiwn hyd yn oed i ysgolion anfon gwybodaeth ychwanegol atoch mewn neges. Er enghraifft, os oes angen i chi fynd i weld Mr Roberts pan gyrhaeddwch, byddwch yn gwybod lle i ddod o hyd iddo!
Dim taflenni amser?
Nid ydym erioed wedi gofyn am daflenni amser yng Ngwasanaethau Addysgu Apollo, ac ni fyddwn byth yn gwneud hynny. Yn lle hynny, byddwch yn gallu gweld pryd y trefnwyd i chi weithio yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol drwy ap Apollo.
Mae diogelu plant yn ganolog i bopeth a wnawn.
Mae holl staff Gwasanaethau Addysgu Apollo yn mynd drwy wiriadau cydymffurfio trwyadl cyn dod yn weithredol ar ein system a chael eu neilltuo i ysgolion.
Y gwiriadau rydym yn eu cynnal ar ein holl aelodau staff yw:
Cyfleoedd
Rydym am i’n staff deimlo eu bod wedi’u gwerthfawrogi.
Yng Ngwasanaethau Addysgu Apollo, rydym yn cynnig sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus sy’n rhoi’r cyfle i chi hogi a gwella eich sgiliau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd hyfforddiant sydd ar y gweill yma.
Ysgol Brynteg
“Rydym wedi bod yn defnyddio Apollo ers i’r cwmni ddechrau ac nid ydym wedi cael problem erioed. Mae’r ymgynghorwyr yn swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr bob amser yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar, ac mae’r staff cyflenwi a gawn gan Apollo o safon uchel. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd Apollo yn datblygu drwy gyflwyno’r ap!”
Lawrlwythwch ein llyfryn
Ysgol Llanilltud Fawr
“Fel ysgol, rydym wedi gweithio gydag Apollo ers blynyddoedd lawer, mae’r staff bob amser wedi bod yn gymwynasgar ac yn gyflym i ddarparu athrawon arbennig i ni.”
Cydlynydd Cyflenwi, Ysgol Gyfun Treforys
“Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi gweithio gyda Gwasanaethau Addysgu Apollo ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn a gallwn ddweud yn galonnog bod y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu’n ddibynadwy, yn hygyrch ac y gellir ymddiried ynddo. Mae’n bwysig i’n hysgol ein bod yn cael staff o safon uchel ac mae Apollo yn gallu darparu hyn i ni hyd yn oed ar fyr rybudd a darparu staff addysgu pynciau penodol hyd yn oed ar gais. Mae’r gwasanaeth y mae cangen Abertawe’n ei ddarparu’n broffesiynol ar bob adeg a byddem yn argymell Gwasanaethau Addysgu Apollo i ysgolion a staff.”
Uwch-swyddog Gweinyddol, Ysgol Heronsbridge
“Rydym wedi defnyddio Gwasanaethau Addysgu Apollo ers dros 10 mlynedd ac yn fwyfwy aml dros y 2 flynedd diwethaf. Rwyf bob amser wedi meddwl bod y staff yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn gymwynasgar iawn ar bob adeg. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid a staff addysgu a staff cymorth o safon uchel sy’n gallu diwallu ein holl anghenion. Mae’r holl staff sy’n cael eu lleoli yn yr ysgol bob amser wedi ymddwyn mewn modd proffesiynol ac ymgartrefu’n dda â’r myfyrwyr a’r staff. Mae’r adborth a gafwyd gan ddosbarthiadau bob amser wedi bod yn gadarnhaol ac, mewn llawer o achosion, mae’r ysgol wedi recriwtio’r staff asiantaeth.
Rheolwr Busnes Ysgol, Ysgol Maes Ebbw
“Roeddwn am ddiolch i Apollo a Marc Williams yn arbennig am y gwasanaeth effeithlon mae’r ysgol wedi’i gael dros y blynyddoedd diwethaf. Rydych wedi darparu staff cyflenwi da iawn i ni sydd wedi dod i’r ysgol yn rheolaidd a meithrin perthnasoedd da â’n staff a’n myfyrwyr. Mae parhad yn bwysig iawn i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Yn ddiweddar, rydym wedi cael y cyfle i gyflogi rhai o’ch staff ar ôl iddynt weithio yn yr ysgol am gyfnod sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rhan fawr o angen yr ysgol yw i staff gael eu darparu ar fyr rybudd ac rydych wedi gallu darparu hyn yn gampus, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth redeg yr ysgol. Mae hefyd yn ddefnyddiol eich bod yn ymweld â ni unwaith neu ddwywaith y tymor, sy’n rhoi’r cyfle i ni drafod ein gofynion.
Daliwch ati gyda’r gwaith da ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’ch asiantaeth eto eleni.”
Emily
Oherwydd Apollo, rwyf wedi cael dechrau da i’m gyrfa addysgu gyda llawer o brofiadau gwerthfawr sydd wedi datblygu fy addysgu drwy’r ystodau oedran gwahanol.
Sadie
Mae Apollo wedi fy helpu i gael profiadau amhrisiadwy drwy fod yn athro newydd gymhwyso drwy addysgu bob dydd a sesiynau gyda’r hwyr a gynhelir yn y swyddfeydd.