Roeddem yn falch iawn o gyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr nos Wener, ar gyfer y categorïau ‘Busnes Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn 2019’ a chategorïau ‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn 2019’.
Roedd y noson yn ddathliad gwych o’r llwyddiannau a gyflawnwyd gan fusnesau lleol dros y 12 mis diwethaf, ac roeddem yn hynod falch o fod yn rhan o’r digwyddiad.
Fe’i cynhaliwyd yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr ac a noddwyd gan Valleys to Coast Housing, roedd gan y noson ‘The Greatest Show’ fel ei thema, ac yn bendant roedd yn unol â’r disgwyliadau! Bwyd blasus, adloniant gwych gan Shellyann a noson fendigedig o lwyddiant clodwiw.
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr!



