Mae Plant mewn Angen yn ddigwyddiad mawr yn amserlen y rhan fwyaf o’n hysgolion, ac mae’n ddigwyddiad mawr i Apollo hefyd! Daeth pawb yn swyddfeydd Gwasanaethau Addysgu Apollo i’r gwaith yn gwisgo pyjamas am rodd i Blant mewn Angen. Codwyd £71.48 gennym a hoffem ddiolch i bawb am eu haelioni!
Os na welsoch sioe Plant mewn Angen ar y teledu, nid yw’n rhy hwyr i weld y cyfan. Ewch i’r wefan i weld y rhannau gorau.
https://www.bbc.co.uk/childreninneed
Rydym wrth ein boddau’n clywed am sut mae eraill yn codi arian i elusen, felly os gwnaethoch chi neu eich ysgol rywbeth aruthrol, hoffem glywed amdano! Anfonwch neges atom ar Facebook neu mewn e-bost.